Bydd swyddi gwag a hysbysebir
gan ein hasiantaeth yn cael eu trin yn
gyfrinachol.
Ni fyddwn yn hysbysebu
eich swyddi gwag yn y Wasg neu ar unrhyw
we-safle
oni bai eich bod chi yn cytuno yn benodol â hynny.
Byddwn yn rhoi gwybod i
chi am unrhyw wrthdaro posibl o ran buddiannau
cyn ceisio llenwi swydd wag.
Ni fyddwn yn targedu
cwmnïau
i ddibenion chwilio o fewn 12 mis ar ôl
i ni ddarparu gwasanaethau i'r cwmni
hwnnw.
Byddwn yn rhoi, neu yn trosglwyddo,
manylion am ymgeiswyr, gweithwyr dros dro
neu gontract, yn unig gyda golwg ar swyddi
gwag a gofrestrwyd neu feysydd o ddiddordeb
posibl.
Mae Atebion yn trin
gwybodaeth am ymgeiswyr a gweithwyr dros
dro yn
gyfrinachol ac yn mynnu fod gwybodaeth
o'r fath a dderbynnir
yn cael ei chyfyngu i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r
broses o recriwtio a'i thrin yn gyfrinachol
bob amser. |
Bydd yr wybodaeth sydd gennym
amdanoch chi yn cael ei thrin yn gyfrinachol
ac eithrio ar gyfer y diben o gyflenwi
swydd wag, a byddwn yn annog ein cleientiaid
i ymddwyn yn yr un modd.
Ni fyddwn yn gofyn i'ch
cyflogwr presennol am dystlythyr
heb eich caniatâd. Bydd gwybodaeth
a gawn mewn tystlythyr yn cael ei thrin
yn gyfrinachol
a bydd yn gyfyngedig i'r broses recriwtio.
Byddwn yn gofyn am ganiatâd
arbennig gennych cyn i'ch CV, neu
unrhyw fanylion personol a allai ddatgelu
pwy
ydych, gael eu harddangos ar unrhyw
we-safle.
Ni fyddwn yn tynnu unrhyw
CV oddi ar we-safleoedd i'w harddangos
neu eu trosglwyddo i gleientiaid
heb ganiatâd
arbennig yr ymgeisydd dan sylw.
Byddwn yn dod i gytundeb â chi
ynglyn â'r dull o gyflwyno gwybodaeth
amdanoch i gyflogwyr. Ni fyddwn yn datgelu
pwy ydych nac yn rhoi manylion swydd a
fyddai'n datgelu hyn heb eich caniatâd,
oni bai eich bod eisoes wedi
rhoi hawl i ni wneud hyn. |