Pwy ydym ni Pwy ydym ni
Cyflogwyr Cyflogwyr
Ymgeiswyr Ymgeiswyr
Resources Adnoddau
 
 
  return to home page
 

 

Adnoddau

NEWYDDION

RHOWCH EICH CALON YN ÔL YN EICH GYRFA - Ddydd Sul, 30 Ionawr 2005.

Dechreuwch y Flwyddyn Newydd gydag ymarfer corfforol cymedrol drwy ymuno â ni ar Daith Gerdded Noddedig Adduned Blwyddyn Newydd Sefydliad Prydeinig y Galon Ddydd Sul, 30 Ionawr 2005.

Mae ffordd iach o fyw yn hanfodol i gynnal cydbwysedd gwaith/bywyd positif.
Dyma pam yr hoffem yn fawr eich gweld yn cerddedgyda staff Atebion i gefnogi achos da.
Codwch swm o £50 neu fwy a derbyn triniaeth neu massage i’r traed AM DDIM trwy garedigrwydd myfyrwyr Coleg Menai. 

Taith Gerdded Noddedig Atebion a'r Sefydliad Prydeinig y Galon

Man cyfarfod: Ystad y Faenol, Bangor, Gwynedd
Amser: 10.15y.b. (i gychwyn am 10.30y.b.)
Pellter: 3-4 milltir

Am fwy o fanylion cysylltwch â ni ar 01248 372112 neu cliciwch yma i geiso am ffurflen gofrestru. Wedi ei chwblhau, gwnewch dderbyn ffurflen noddi a llyfryn ‘Get Active’ Sefydliad Prydeinig y Galon.

 

WYTHNOS GENEDLAETHOL GWEITHWYR DROS DRO 17-21 MAI 2004

Cyrhaeddodd Atebion y dudalen flaen ym mis Mai pan fuom yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gweithwyr Dros Dro.
Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi.
Dyma erthygl a ymddangosodd yn y Daily Post ar 20 Mai.

 

DANTEITHION MELYS I’R GWEITHWYR DROS-DRO DIFLINO
Erthygl gan David Jones Ffotograffiaeth gan Richard Parry Jones

Mae’r rhain yn aelodau o fyddin fawr anhysbys o weithwyr –
y gweithwyr dros dro.

Ddoe, fodd bynnag, mynegodd un asiantaeth recriwtio yng Ngogledd Cymru ei diolchgarwch i’r holl weithwyr dros dro ar ei llyfrau drwy gyflwyno anrheg annisgwyl iddynt.

Dathlodd Atebion Recruitment Wythnos Genedlaethol Gweithwyr Dros Dro drwy anfon bocs bychan o siocledi i bob un o’u gweithwyr dros dro yn union i’w mannau gweithio ym mhob rhan o’r ardal.

Ymhlith y rhai a dderbyniodd y siocledi yr oedd Non Roberts o Gaernarfon sy’n gynorthwy-wraig weinyddol dros dro yn swyddfa’r Daily Post yng Nghyffordd Llandudno.

Dywedodd y cwmni, sydd â swyddfeydd ym Mangor a Llandudno, fod hyn yn arwydd o’r ffaith ei fod yn cydnabod gwaith caled ei staff dros dro a’u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a’u cyfraniad yn hwyluso gwaith busnesau yng Ngogledd Cymru.

Mae Wythnos Genedlaethol Gweithwyr Dros Dro yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi i gydnabod cyfraniad 1 filiwn o weithwyr dros dro ym Mhrydain i’r economi genedlaethol.

Mae asiantaethau recriwtio yn dathlu’r wythnos mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys cynnal partïon ac enwebu gweithwyr eithriadol i dderbyn y wobr “One in a Million” a noddir gan y cydffederasiwn.

 

 

 

 

 

 
     
 
gyrrwch eich sylwadau Hafan Croeso