Rydym yn treulio oddeutu traean o’n
horiau effro yn gweithio, felly mae’n bwysig darganfod
swydd lle mae’r cyflogwr a’r ymgeisydd yn ‘cyd-fynd’ yn
dda. Nid yw hyn yn rhywbeth hawdd wrth i chi ystyried
fod yn rhaid i’r ddau wneud y penderfyniad o fewn
amser byr iawn. Yr hyn sy’n hollbwysig, os ydych
am gael cyfweliad llwyddiannus, yw paratoi.
| Dethol – Ai
hon yw’r swydd i mi? |
- Dadansoddwch
eich sgiliau, eich gallu, eich cymwysterau, a’ch
profiad – a ydynt yn cyd-fynd â gofynion
y cyflogwr?
- Penderfynwch beth yw eich amcanion
gyrfaol yn y tymor byr a’r
tymor hir – a yw’r swydd yn cyd-fynd â’ch cynllun?
- Casglwch wybodaeth am y swydd – cysylltwch â’r
cwmni i gael mwy o fanylion, neu holwch gyfeillion
neu gydweithwyr â chysylltiadau
o fewn y cwmni.
- Casglwch wybodaeth am y cwmni – gofynnwch am ei
lenyddiaeth, astudiwch ei wefan. Bydd hyn yn arwydd i’r cyflogwr
eich bod yn hunanysgogol ac yn flaengar.
|
| Beth mae Cyflogwyr
yn ei ddisgwyl gennych |
- Pwrpas
cwmnïau yw gwneud arian – byddant
yn disgwyl i chi fod yn gynhyrchiol, hy gwneud
mwy o arian neu
arbed arian iddynt.
- Eich bod yn rhannu’r
un nod.
- Presenoldeb da a dibynadwyedd
- Ymddangosiad proffesiynol
- Cymhelliad
- Sgiliau cyfathrebu da.
|
| Cyn y Cyfweliad |
- Mae cyflogwyr
yn chwilio am ymgeisydd sydd eisiau’r union
swydd y maent yn ei chynnig ac nid unrhyw swydd.
Bydd angen i chi roi atebion penodol wrth ateb
cwestiynau megis “Pam wnaethoch chi wneud
cais am y swydd hon?”
- Meddyliwch am y swydd
dan sylw – am beth mae’r cyflogwr
yn chwilio?– nodwch y pwyntiau hyn a meddyliwch am gwestiynau allech
chi eu gofyn i’r cyflogwr, pe byddai galw am hynny.
- Beth allech chi
ei gyfrannu i’r cwmni a sut allech chi argyhoeddi’r
cyflogwr mai gennych chi mae’r sgiliau a’r profiad gorau
ar gyfer y swydd?
- Ysgrifennwch rai cwestiynau a allai gael eu gofyn
i chi a meddyliwch
sut y gallwch chi eu hateb mewn ffordd bositif.
- A oes unrhyw fylchau
yn eich CV? Allwch chi eu hegluro mewn ffordd
gadarnhaol?
- Gofynnwch i gyfaill eich helpu drwy
chwarae rôl cyfwelydd – bydd
hyn yn eich helpu i baratoi at y cyfweliad ar y diwrnod.
- Darllenwch
eich CV a’ch llythyr eglurhaol – mae’n
debyg y byddwch yn cael eich holi amdanynt yn y cyfweliad.
- Sicrhewch
eich bod yn gwybod beth fydd trefn y cyfweliad.
- Gofynnwch
am gyfarwyddiadau ynglyn â sut i ddod o hyd
i’r
cwmni a gofalwch wybod faint o amser fydd hi’n gymryd
i deithio yno – cofiwch
ganiatáu rhywfaint o amser ychwanegol rhag ofn y bydd
oediad annisgwyl ar y ffordd.
|
| Ar y Diwrnod
ei hun |
- Sicrhewch fod yr
argraff gyntaf a wnewch yn un ffafriol – gofalwch
ymddangos yn lân a thrwsiadus.
- Gwisgwch
yn smart – mae’n ddoethach
gwisgo mewn dull traddodiadol.
- Sicrhewch eich
bod yn cyrraedd yn brydlon.
- Cofiwch fynd â chyfarwyddiadau
ysgrifenedig a rhif ffôn cysylltu
gyda chi er mwyn cysylltu â’r un sy’n cyfweld os byddwch
yn cael trafferth i gyrraedd mewn pryd.
- Ewch â chopïau o’ch
CV, portffolio (os yw hyn yn berthnasol) llyfryn nodiadau a beiro.
- Sicrhewch
eich bod yn gwybod enwau’r cyfwelydd(wyr)
a defnyddiwch gyfenw(au).
|
| Yn ystod y Cyfweliad |
- Defnyddiwch iaith gorfforol addas
drwy gydol y cyfweliad (mae’n ddefnyddiol
darllen am hyn ymlaen llaw).
- Gadewch i’r
sawl sy’n cyfweld estyn
ei law i chi. Ymatebwch drwy ysgwyd ei law
yn gadarn, edrychwch arno, gwenwch a chyflwynwch
eich hun drwy
ddweud eich enw.
- Cofiwch ddisgwyl i’r cyfwelydd ddangos
i chi ym mhle i eistedd a gadewch iddo ddechrau
siarad â chi.
- Gwrandewch ar y cyfwelydd drwy
gydol y cyfweliad ac ymatebwch i’r cwestiynau
a ofynnir.
- Meddyliwch yn ofalus am bob cwestiwn a ofynnir
a rhowch ateb ystyriol a pherthnasol.
- Dangoswch
ddiddordeb drwy edrych ar y cyfwelydd, adlewyrchu
ei iaith gorfforol a chadw osgo
positif.
|
| Pethau na ddylech
eu gwneud |
- Bod yn rhy
gyfeillgar â’r
cyfwelydd, hy peidiwch â defnyddio enwau
cyntaf os na ofynnir i chwi wneud hynny.
- Rhoi
gwybodaeth na ofynnwyd amdani i’r
cyfwelydd.
- Trafod materion sensitif megis crefydd,
oedran neu hawliau cyfartal.
- Holi ynglyn â gwyliau,
cyflog neu fuddion.
- Dangos eich bod yn nerfus
neu wedi syrffedu.
- Peidiwch â siarad ar
draws y cyfwelydd neu fonopoleiddio’r
cyfweliad.
- Beirniadu cyflogwyr blaenorol.
|
| Pethau y dylech
eu gwneud |
- Gofyn cwestiynau
positif sy’n dangos fod gennych ddiddordeb
yn y cwmni/swydd.
- Gofalu fod y cwestiynau’n
rhai byrion a pherthnasol.
- Gofyn sut mae’r
swydd dan sylw yn cyfrannu tuag at lwyddiant
y cwmni.
- Holi beth fydd y cam nesaf.
- Cloi’r cyfweliad
ar nodyn positif a dweud eich bod yn edrych ymlaen
am gael clywed ganddynt.
|