| Paratoi |
Meddyliwch am
eich gyrfa hyd yn hyn a gwnewch restr o’r
canlynol:
|
- Profiad gwaith (sector busnes a gwirfoddol).
- Sgiliau
a medrau.
- Cryfderau a rhagoriaethau.
- Anelwch eich CV at
y swydd. Cofiwch addasu cynnwys eich CV yn ôl
y swydd yr ydych yn ceisio amdani. Os ydych yn ymateb i swydd sydd
wedi ei hysbysebu, defnyddiwch y cliwiau sydd yn
yr hysbyseb a chofiwch gynnwys geiriau
allweddol
tebyg yn eich CV.
|
| Cynnwys y CV |
| Dylai eich CV wneud
i’r cyflogwr fod yn awyddus i ddarganfod mwy
amdanoch
chi, felly dylai’r CV: |
- Fod wedi
ei gyflwyno’n
rhesymegol.
- Fod yn hawdd i’w ddarllen.
- Fod yn gryno
ac yn berthnasol i’r swydd dan sylw.
- Gynnwys
tystiolaeth ffeithiol gryno i ategu unrhyw
honiadau ydych chi’n
eu gwneud.
- Ni ddylai fod yn fwy na 2-3 tudalen.
- Dylai ddweud
y gwir – peidiwch â gwneud honiadau
na allwch chi eu cyfiawnhau.
|
| Fformat y CV |
| Byddwch yn gyson
yng nghyflwyniad eich CV, yn arbennig gyda golwg
ar: |
- Benawdau
- Math o brint
- Gosodiad
- Gramadeg a sillafu
- Rhifau’r tudalennau
|
| Tudalen Un |
| – dylai gynnwys
y manylion personol canlynol |
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif(au) Ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Addysg
- Cymwysterau –ym mhle, pryd a pha
safon a gyrhaeddwyd.
- Aelodaeth o unrhyw gyrff
Proffesiynol neu Ddiwydiannol.
- Arolwg byr o’ch
sgiliau a’ch profiad a’r math o waith
ydych chi’n chwilio amdano.
|
| Tudalen Dau/Tri |
| – yma
dylid canolbwyntio ar hanes eich gyrfa. Dylech wneud
y canlynol: |
- Cyflwyno eich CV gan roi eich swydd
olaf yn gyntaf.
- Rhoi ddyddiadau penodol ar gyfer
pob swydd, enw’r cyflogwr/diwydiant/lleoliad
a’r gwaith oeddech chi’n ei wneud yn y swydd.
- Llenwi unrhyw
wagleoedd rhwng swyddi.
- Os un cyflogwr yn unig a fu gennych bydd angen
i chi ddangos datblygiad o fewn y cwmni drwy
roi cofnod ar wahân ar gyfer pob swydd a
ddaliwyd a disgrifio’ch gwaith a’ch
cyfrifoldebau.
- Cynnwys yr hyn a gyflawnwyd gennych
a rhoi tystiolaeth ategol os yw’n
bosibl, ee cynnydd mewn gwerthiant neu gynhyrchu. Gallwch ddefnyddio
geiriau cadarnhaol, megis ‘llwyddo’, ‘sefydlu’, ‘implementeiddio’, ‘cyfarwyddo’ a ‘threfnu’ i
roi mwy o wybodaeth am eich swydd.
- Cynnwys profiad a gawsoch yn y
sector gwirfoddol/elusennol.
- Rhoi disgrifiad cryno o’ch hobïau
os ydynt yn berthnasol.
- Rhoi enwau, cyfeiriadau a rhifau cysylltu 2 ganolwr.
- Peidio
ag ailadrodd.
|
| Gwirio’r
CV |
- Gofynnwch
i gyfaill neu gydweithiwr ddarllen eich CV a
gofynnwch iddynt
am adborth.
- Gwiriwch y gramadeg ac yn enwedig y sillafu.
- Cofiwch
ddiweddaru eich CV a’i gadw ar ddisg mewn
fformat safonol.
|