 |
Croeso i Adran y
Cyflogwyr
|
|
| |
|
Mae ein nod yn un syml – cynnig staff
o ansawdd a gwasanaeth personol, a hynny am bris rhesymol.
Rydym yn dîm cyfeillgar a phroffesiynol, wedi
ymrwymo i ddarganfod y bobl orau i chi – cwmni
Cymreig gyda staff dwyieithog sy’n deall anghenion
cyflogaeth yng Ngogledd Cymru. Rhyngddynt, mae gan ein
hymgynghorwyr dros 30 mlynedd o brofiad yn y byd recriwtio
i ddarparu gwasanaeth cyflym, effeithiol a dibynadwy.
Gadewch i ni eich helpu i arbed amser fel y byddwch
chi’n rhydd i fwrw ‘mlaen â’r
gwaith o redeg eich busnes. Beth bynnag fo’ch anghenion
recriwtio a beth bynnag fo’ch cyllid, gallwn gynnig
amrywiaeth o atebion i’ch problemau.
Sut y gallwn ni eich helpu
Staff
Dros Dro |
Cyflenwyr yn ystod gwyliau, salwch a seibiant mamolaeth, er mwyn cwblhau gwaith
brys, prosiectau arbennig, neu fel darpar weithwyr parhaol. |
Dros
Dro ac yna Parhaol |
Cyflogi gweithwyr trwy
gontract dros dro er mwyn rhoi amser i chi
asesu eu sgiliau a'u cymeriad cyn cynnig contract
parhaol iddynt. |
Staff
Parhaol |
Ffordd gyflym o lenwi swyddi
parhaol. Byddwch yn derbyn CV pob ymgeisydd
addas, a byddwn ninnau yn trefnu'r cyfweliadau
yn RHAD AC AM DDIM. |
Hysbysebu/Llunio
rhestr fer yn gyfrinachol |
Gallwn
hysbysebu pob un o’ch swyddi gwag ar
ein gwefan, gallwn ddelio â cheisiadau,
llunio rhestr fer a threfnu cyfweliadau ar
eich rhan – a’r cwbl AM
DDIM. |
Chwilio
a Dethol |
Rydym yn
buddsoddi mewn hysbysebu ar y radio, yn y
Wasg, mewn ffeiriau recriwtio ac ar y Rhyngrwyd,
ac rydym yn rhwydweithio gydag asiantaethau
eraill i ddenu ymgeiswyr o amrediad eang
o sectorau. Mae ein cronfa ddata eang, ynghyd â’n
gwybodaeth am y farchnad waith leol yn erfyn
effeithiol y gallwch fanteisio arno. |
Ymgynghori
yn y fan a'r lle |
Ymweliadau â’ch
safle gwaith, yn ddi-dâl a heb ymrwymaid,
er mwyn inni ddeall anghenion eich busnes
a chyrraedd eich safonau. |
Asesiadau
Sgiliau |
Cewch wybodaeth
werthfawr a pherthnasol ynghylch cymhwysedd
a gwybodaeth ymgeisydd cyn i chi recriwtio
neu ddyrchafu. Rydym yn cynnig amrediad o
ddulliau gwerthuso mewn sgiliau cyfrifiadurol,
tasgau gweinyddol, gwasanaeth cwsmeriaid
a rhifedd a llythrennedd. |
|
Pam ddylech chi ddefnyddio Atebion?
Byddwch
yn canfod llawer o fanteision ac yn cael
tawelwch meddwl wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.
Cyn buddsoddi mewn hysbysebion drud a
phroses recriwtio hirfaith, beth am roi'r cyfle
i ni ddarganfod ateb uniongyrchol i chi?
|
|
Dim ond
un neges e-bost neu alwad ffôn sydd
angen. Bydd ein tîm ymroddedig yn
ysgwyddo'r baich o ddarganfod pobl a chanddynt
y profiad a'r potensial ar eich cyfer chi.
|
|
|
Rydym
yn cynnal safonau uchel er mwyn cynnig
staff o ansawdd i chi. Mae pob un o'n hymgeiswyr
yn cael eu cyfweld, mae eu sgiliau yn cael
eu gwerthuso (pan fo hynny'n briodol) a
byddwn yn cysylltu â'u canolwyr.
|
|
|
Ymweliadau
ac ymgynghoriadau, rhagddethol ymgeiswyr,
CV ymgeiswyr, trefnu cyfweliadau, gwasanaeth ôl
werthu a rheoli cyfrif – y cwbl am
ddim.
|
|
|
Wrth
gyflogi gweithiwr dros dro byddwch yn talu
am yr oriau a weithiwyd yn unig - byddwn
ni yn gofalu am y rhestr gyflogi. Mae'r
strwythur ffioedd hyblyg ar gyfer staff
parhaol a ffioedd gostyngol wrth recriwtio
gweithwyr dros dro a pharhaol yn arbed
arian ar hysbysebu a gwaith gweinyddol.
|
|
|
Staff
ychwanegol cyhyd ag y byddwch eu hangen.
|
|
|
Beth
bynnag fo'r sefyllfa byddwn yn ymateb yn
gyflym wrth ddod o hyd i'r gweithwyr gorau
i chi.
|
|
|
Cewch
y sicrwydd ychwanegol o ad-daliad, neu
drefnu gweithiwr arall os na fydd pethau'n
gweithio'n hwylus, ac ni
chodir ffi o gwbl
os na fyddwn yn dod o hyd i'r gweithiwr
priodol i chi.
|
|
|
 |