Pwy ydym ni Pwy ydym ni
Cyflogwyr Cyflogwyr
Ymgeiswyr Ymgeiswyr
Resources Adnoddau
 
 
  return to home page
 

 

Storiau Llwyddianus

SWYDDI GWAG
Barn ein Ymgesiwyr
cliciwch

 

Wyn Jones, Gweithiwr TG Proffesiynol, Rhuddlan, Sir Ddinbych

"Roeddwn yn hynod o hapus gydag Atebion. Roeddynt yn gyfeillgar, yn oflaus ac yn effeithiol. Daethant o hyd i swydd dda i mi yn gyflym iawn."

 

Jayne Smith, Swyddog Cyflogres a Chyfrifon, Bangor

"Bu Atebion yn hanfodol i mi tra'r oeddwn yn astudio yn y Brifysgol. Sylweddolais fy mod yn gallu darganfod gwaith yn eithaf rhwydd ac yn rheolaidd, ac roedd cyfraddau'r tâl yn eithaf da, a olygai fy mod yn gallu cadw fy nyled i'r banc dan reolaeth. Roedd y ffaith fod y staff yn gyfeillgar ac mor barod i helpu yn fonws ychwanegol"

 

Jonathan Rothwell, Swyddog Gweinyddol, Sir Fôn

"Roedd Atebion yn hynod o ddefnyddiol. Gwasanaeth proffesiynol drwyddo draw, staff cyfeillgar ac effeithiol iawn sy'n sicrhau eich bod yn cael y swydd ydych chi ei heisiau, a hynnu heb wastraffu amser."

 

Helen Morris, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Bangor

"Ar ôl cael fy lleoli am bythefnos, nawr mae gennyf swydd barhaol a chyflogwr gwych. Rydw i wedi magu hunanhyder mewn maes na feddyliais erioed y byddwn yn gweithio ynddo, ac i Atebion mae'r diolch gan eu bod wedi dangos ei bod yn bosibl sianelu'r sgiliau oeddwn i wedi eu dysgu i gyfeiriad newydd."

 

Llinos Thomas, Swyddog Addysg Amgueddfa, Llandysul, Sir Gaerfyrddin

"Atebion wnaeth fy sbarduno i ddechrau ar yr alwedigaeth yr hyfforddwyd fi ar ei chyfer drwy ddarganfod fy swydd broffesiynol gyntaf oedd y tu hwnt i'm disgwyliadau."

 

Martin Pegler, Gweinyddwr/Rhaglennwr Systemau, Bangor

"Mae Atebion wedi ymroi i gydweithio â chi i ddarganfod y swydd ddelfrydol ar eich cyfer. Y swydd sydd gen i ar hyn o bryd yw'r swydd orau a gefais erioed. Diolch yn fawr Atebion a daliwch ati i wneud gwaith mor dda."

 

Helen Evans, Cynorthwy-ydd Personol, Caernarfon

"Roeddwn i'n ceisio newid cyfeiriad yn fy ngyrfa ac yn chwilio am swydd fyddai'n rhoi mwy o sialens gyda mwy o gyfrifoldeb. Sylweddolais fod Atebion 'radd yn uwch na'r gweddill' a'u bod yn gweithredu'n broffesiynol iawn ac yn dangos gofal. Roeddynt yn anhygoel o ymroddedig wrth chwilio am swydd addas i mi. Y tîm gorau, sydd bob amser yn rhoi 110% i chi."

 

 

 

 
     
 
gyrrwch eich sylwadau Hafan Croeso