Pwy ydym ni Pwy ydym ni
Cyflogwyr Cyflogwyr
Ymgeiswyr Ymgeiswyr
Resources Adnoddau
 
 
  return to home page
 

 

Gyrrwch eich CV

SWYDDI GWAG
 
cliciwch

Beth Yw'r Drefn?

Pan fydd gan gyflogwyr swydd i'w llenwi, pa un ai yw'n swydd barhaol neu'n swydd dros dro, byddant yn defnyddio asiantaethau preifat fel Atebion gan ein bod yn arbenigwyr ar recriwtio. Gall cwmnïau fwrw ymlaen â'r gwaith o redeg eu busnesau tra'n bod ni'n darganfod y staff priodol iddynt.

Yng Ngwledydd Prydain ceir cannoedd o asiantaethau sy'n darparu gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn amrediad eang o alwedigaethau. Mae'r asiantaethau dibynadwy yn aelodau o'r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi (Recruitment & Employment Confederation) (REC), ac maent yn gweithredu yn unol â safonau caeth ymarfer recriwtio da. Mae gan Atebion aelodaeth gorfforedig lawn.

Sut ydw i'n mynd ati i gofrestru?

Yn gyntaf, mae'n RHAD AC AM DDIM, felly 'does gennych ddim i'w golli.  Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen isod ac:

Atodwch eich CV, neu gallwch eu hanfon drwy'r post neu gydag e-bost.
Darparu tystlythyr gwaith a chymeriad.
Dod i gyfweliad yn swyddfa Atebion a, phan fo hynny'n briodol, byddwn yn
asesu eich sgiliau.

Os byddwch yn cyrraedd ein safonau, bydd ein hymgynghorwyr recriwtio yn defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad o ddiwydiant i ddarganfod y cwmnïau priodol i chi. Byddwn yn gweithio'n galed er mwyn eich cyflwyno i'n cleientiaid a threfnu eich bod yn cael y cyfweliad hollbwysig hwnnw.

Beth am i chi edrych ar ein Swyddi Gwag nawr.

Cofrestru Ymgeisydd

Cwblhewch y ffurflen hon i gofrestru ag Atebion Recruitment Cyf.

 

 

 
     
 
gyrrwch eich sylwadau Hafan Croeso