Rydw i’n mwynhau
gweithio yn y cwmni yma ac yn mwynhau’r amrywiaeth
sy’n gysylltiedig â’m
swydd bresennol. Un funud rydw i’n paratoi
nodiadau cwrs a’r funud nesaf rydw i’n
siarad â’r cleientiaid ac yn rhoi manylion
y cyrsiau sydd ar gael iddynt. Ar hyn o bryd rydw
i’n astudio Cymraeg mewn dosbarthiadau nos
ac rwy’n gallu defnyddio hyn i ryw raddau
yn ystod fy niwrnod gwaith. Mae’r staff a’r
hyfforddwyr yn hynod o gyfeillgar a hawdd siarad â hwy – mae
nhw’n ymwybodol fod rhaid addasu sgiliau
unigolion a chynorthwyo pobl i ddeall eu swydd
bersonol.
|