Darganfyddwch sut i ddod o hyd i’r
swydd ddelfrydol.

| Name: |
Theo Ogbu
o Fangor, Gwynedd |
| |
| Teitl Swydd: |
| Cyfrifydd |
| |
|
Statws
Gwaith |
| Parhaol |
| Cwmni |
| Trewgate
Ltd, Caernarfon |
| Sut
y cawsoch chi’r swydd hon? |
| Gwelais swydd yn cael ei hysbysebu
gan Atebion yn y papur newydd lleol, felly penderfynais
gofrestru â hwy er mwyn darganfod swydd cyfrifydd
barhaol. Cefais gynnig cyfweliadau ar gyfer tair
swydd wag. Yn achos y swydd hon bu’n rhaid
i mi fynd i gyfweliad yn Llundain, â’r
holl gostau wedi eu talu. Roeddwn i wrth fy modd
pan gynigwyd y swydd i mi. |
| Pa fath
o waith ydych chi’n ei wneud yn y swydd hon? |
| Sefydlu systemau a gweithdrefnau
cyfrifon ar gyfrifiaduron. Cynhyrchu cyfrifon rheolaethol
misol, rhagolygon llif arian, cyllidebau a chynllun
busnes. Cynghori’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ynglyn â phob
agwedd ar faterion ariannol. Rhestrau cyflogi wythnosol
a misol, cyfrifon statudol, ee TAW. Hefyd prisio
cynnyrch, anfonebu a rheoli credyd. |
| Beth
ydych chi’n obeithio ei wneud yn y dyfodol? |
| Mae hwn yn gwmni gwych a rydw
i’n gweithio gyda phobl arbennig iawn. Mae’r
swydd hon yn caniatáu i mi ymdrin â phob
agwedd ar gyfrifeg ariannol a rheolaethol. Ryw ddiwrnod,
rwyf yn gobeithio dod yn Gyfarwyddwr Cyllid. |
| Beth
yw eich argraff chi o asiantaethau recriwtio? |
| Mae gennyf gryn
feddwl ohonynt. Mae’n ymddangos eu bod yn barod
i wneud unrhyw beth er mwyn i chi gael cyfweliad
ar gyfer swydd. Roedd Atebion yn hynod o dda. Gwnaeth
y staff i mi deimlo’n gartrefol ac roeddwn
yn teimlo eu bod, o ddifrif, eisiau fy helpu. Mae
nhw’n gwmni cyfeillgar a phroffesiynol. |