 |
Croeso i Adran yr
Ymgeiswyr
|
|
| |
|
Llongyfarchiadau a Chroeso! Rydych chi newydd lwyddo
yn y cam cyntaf wrth chwilio am waith. Nawr, gobeithiwn
y byddwch yn mynd ati i ddarllen y canlynol ac yn gadael
i ni eich helpu i ddarganfod swydd ardderchog. Yn gyntaf,
dyma gyfres fer o fynegiadau. Os byddwch chi'n ateb yn
gadarnhaol i unrhyw un o'r rhain yna gallwn ni eich helpu:-
Mae arnaf
angen gwaith dros dro nes byddaf yn gallu
darganfod swydd barhaol.
|
Rydw
i wedi syrffedu ar fy swydd ac mae arnaf
angen sialens newydd.
|
Byddwn
yn hoffi cael swydd ran amser tra bo'r
plant yn yr ysgol.
|
Rydw
i wedi bod yn disgwyl am ddyrchafiad/godiad
cyflog ers hydoedd - efallai y dylwn symud
ymlaen a darganfod cwmni fydd yn gwerthfawrogi'r
sgiliau a'r profiad sydd gen i.
|
Rydw i newydd gael fy niswyddo - mae gennyf ymrwymiadau ariannol ac mae'n rhaid
i mi ddarganfod gwaith yn syth.
|
Rydw
i wedi ymgeisio am amryw o swyddi ond tydw
i ddim yn cael llwyddiant o gwbl, efallai
bod angen cymorth arnaf gyda'm CV a'm sgiliau
ar gyfer cyfweliad.
|
Rydw
i eisiau symud i Ogledd Cymru a hoffwn
ddarganfod pa swyddi sydd ar gael yno.
|
Mi wnes
i ymddeol yn gynnar ond erbyn hyn rydw
i wedi syrffedu. Mae gennyf lawer o wybodaeth
a phrofiad i'w gynnig a rydw i eisiau cadw
fy meddwl yn effro.
|
Mae arnaf
angen gwaith yn ystod y gwyliau i dalu
am fy astudiaethau, ac yna hoffwn gael
swydd barhaol ar ôl i mi orffen yn
y coleg.
|
|
A ydych chi'n perthyn i un o'r sefyllfaoedd
hyn? Wel, os ydych, peidiwch â phoeni.
Mae ein
tîm cyfeillgar a phrofiadol ni yma i'ch cefnogi
ar bob cam o'r daith wrth chwilio am swydd - a FYDD HYNNY
DDIM YN COSTIO YR UN GEINIOG I CHI.
|
 |